Mae RPC wedi bod yn gweithredu ers bron i 60 mlynedd, yn
wreiddiol fel ‘The Ruthin Works’ ac fel RPC Ltd
dros y ddegawd ddiwethaf.
Prynwyd y cwmni, a oedd yn wreiddiol ym mherchnogaeth Tarmac,
gan entrepreneur lleol Alan Roberts yn 1997. Ers hynny, mae
wedi rhoi rhaglen ehangu tymor hir ar y gweill, ac mae RPC
yn symud at amrediad o gynnyrch a sectorau newydd.
Sefydlwyd y busnes yn wreiddiol er mwyn gwasanaethu’r
Farchnad Ddwr Cenedlaethol, gan gynhyrchu siambrau tanddaearol
ar gyfer gosod falfiau, hydrantau a mesuryddion. Yn fuan iawn
datblygwyd y rhain er mwyn ateb galw cynyddol gan y diwydiannau
nwy, priffyrdd a thrydan.
Wrth i’r RPC newydd ddatblygu, darganfu'r cwmni'r angen
am waliau cynnal, yn arbennig rhai ar gyfer amddiffynfa’r
môr a glannau afonydd. Cafodd nifer o gynnyrch unigryw
eu patentu a chafwyd Dyluniadau Cofrestredig. Yn fuan datblygodd
yr adran Amgylcheddol i fod yn brif farchnad y cwmni a chryfhawyd
a datblygwyd y cynnyrch drwy’r blynyddoedd.
Yn fuan, gwelwyd bwlch amlwg yn y farchnad - darpariaeth
gwasanaeth llawn o ddylunio, darparu a gosod ar gyfer y cynnyrch
Amgylcheddol - ac yn 1999 gwelwyd lansio'r adran Gontractau.
Mae’r adran hon wedi tyfu ac ehangu yn gyflym iawn ers
hynny, ac erbyn hyn yn rhestru bron pob prif gwmni contractio
ac adeiladu tai yn y DU ymysg ei gleientiaid, ac yn meddu
ar enw da am wasanaeth datrysiadau arbennig o’r radd
flaenaf.
Yn 2005, cyhoeddodd RPC lansiad y drydedd adran a fyddai
yn canolbwyntio’n benodol ar y diwydiannau palmantu
domestig a masnachol. Dechreuodd RPC Paving gynhyrchu amrediad
o balmentydd traddodiadol yn ogystal â chreu nifer o
systemau palmantu blaengar gan gynnwys DrivePave, a’u
dosbarthu drwy’r prif fasnachwyr adeiladau ledled y
DU.
Heddiw ystyrir RPC fel arbenigwr mewn dylunio, cynhyrchu
a gosod ei systemau a’i gynhyrchion, yn arbennig drwy’r
adrannau sefydledig RPC Contracts & RPC Environmrntal.
Mae RPC Paving yn dal i ddatblygu ac eisoes wedi cael cryn
effaith ar y farchnad tirlunio gystadleuol.
Mae’r cwmni’n awr yn cyflogi gweithlu o oddeutu
100 ac mae buddsoddi mewn offer, peiriannau a phrosesau yn
sicrhau fod y busnes yn gallu parhau i fod yn flaengar yn
ei faes.
Edrych tuag at y dyfodol mae RPC yn awr - at ddatblygu systemau
a chynnyrch newydd ym mhob adran a pharhau i gyflenwi gwasanaeth
o’r radd flaenaf.
Cwestiwn ac Ateb
• Lle gallaf ddod o hyd i brisiau cynnyrch RPC?
• Beth yw disgwyliad oes y concrid?
• Pa fath o gymysgedd mortar ddylid ei ddefnyddio i
osod palmant RPC?
• Lle medraf archebu cynnyrch RPC?
• Pa opsiynau cyflenwi sydd ar gael?
|