RPC - Concrete Solutions
Paving the way Forward

Contact Us:
T. 01824 709102
F. 01824 709105
E. contracts@rpcltd.co.uk

LATEST NEWS: RECENT FLOODING PROMPTS INTEREST IN RPC DEFENCE SYSTEMS...
Home Email to a Friend

Contractio...

 

Mae adran RPC Contracts yn un o brif ddarparwyr datrysiadau peirianyddol y DU ar gyfer systemau waliau cynnal.

Mae’r adran wedi sicrhau ei lle fel arweinydd yn y maes. Drwy weithredu’n genedlaethol, mae’n dylunio, cynhyrchu a gosod waliau a strwythurau cynnal i’w defnyddio yn y diwydiannau peirianneg sifil a’r diwydiant adeiladu ehangach.

O ddatrysiadau arbenigol cymhleth i systemau ‘oddi ar y silff’, mae holl gynnyrch RPC, gan gynnwys waliau cynnal disgyrchol, waliau cantilifer a strwythurau rhesel, yn cael eu dylunio a datblygu i ateb gofynion y safonau a amlinellir yn BS 8002.

Gall ein timau arbenigol ddatblygu datrysiad sy’n ateb gofynion penodol pob prosiect. Drwy’r holl broses, o’r arolwg a’r gwaith ymchwil cyntaf, hyd at y cynhyrchu a’r gwaith gosod, byddwn yn gweithio yn glos gyda’n cleientiaid.

 
  Mae prif gynnyrch RPC Contracts yn cynnwys:
   
  • Chevloc
    Chevloc - system goncrid rhagfwrw fodylaidd amlbwrpas wyneb-hollt. Mae defnyddio Chevloc yn caniatáu defnyddwyr i greu waliau cynnal a waliau ar eu pen eu hunain mewn nifer o gyfeiriadau a chyfluniadau.

  • kriblok
    Mae Kriblok yn cynnig cryfder a gwydnwch sy’n para, er mwyn sefydlogi bron unrhyw fan sydd â phroblemau atal pridd, ac mae’n arbennig o addas ar gyfer lleoliadau masnachol neu ddiwydiannol.

  • Rocwall
    System hyblyg a chryf. Gellir defnyddio Rocwall yn gyflym iawn i adeiladu waliau cynnal a waliau ar eu pennau hunain, a chreu gorffeniad sy’n gweddu’n berffaith â’r amgylchoedd ar yr un pryd.

  • Timbalok
    System wal gynnal rhesel o wneuthuriad pren yw Timbalok. Mae wedi ei greu o goed o goedwigoedd cynaliadwy, ac mae gorffeniad esthetig dymunol Timbalok yn gwneud y cynnyrch hwn yn ddelfrydol ar gyfer cynlluniau a datblygiadau tai.
   
Concrete Solutions
Paving Solutions
Environmental